Yn galw ar swyddogion adfywio, cynghorau tref, cynghorau sir, swyddogion digidol, cefnogwyr Trefi Smart a busnesau lleol.
Bydd Trefi Smart Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ledled Cymru sy’n rhoi cyfle i bawb ddarganfod sut y gall Trefi Smart gefnogi eich trefi i ddod at ei gilydd, i rannu arferion gorau a syniadau, a hefyd i gyflwyno manteision defnyddio data i fusnesau!
Mae'r sioeau teithiol yn cael eu cynnal mewn sawl lleoliad, gan gynnwys:
- Sioe Deithiol Trefi Smart Aberhonddu – Aberhonddu, 4 Mehefin 2024
- Sioe Deithiol Trefi Smart Powys – Y Drenewydd, 5 Mehefin 2024
- Sioe Deithiol Trefi Smart Ynys Môn – Llangefni, 5 Gorffennaf 2024
- Sioe Deithiol Trefi Smart Sir y Fflint – lleoliad i'w gadarnhau, 10 Gorffennaf 2024
Oherwydd niferoedd cyfyngedig, digwyddiadau ar gyfer awdurdodau lleol, cynghorau tref, busnesau stryd fawr lleol a/neu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn unig yw’r rhain.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am Trefi Smart: Hafan | Trefi Smart Town (smarttowns.cymru)