BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Small Business Sustainability Basics Programme – cyfle i ymuno â chwrs 6 wythnos rhad ac am ddim

Mae Small Business Britain yn falch o lansio'r rhaglen Sustainability Basics, mewn partneriaeth ag Ysgol Fusnes Oxford Brookes, er mwyn helpu busnesau bach i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cynaliadwyedd.

Bydd y rhaglen am ddim hon (a chymuned o fusnesau o'r un anian) yn cyflwyno'r hanfodion sydd eu hangen ar bob entrepreneur i roi hwb i'w gwaith cynllunio cynaliadwyedd, lleihau eu heffaith ar y blaned, a throi eu cynlluniau cynaliadwyedd yn fantais fasnachol wych. 

Bydd y rhaglen hon yn para chwe wythnos drwy sianeli digidol.

Byddwn yn recordio'r gweminarau, a byddant ar gael i ddal i fyny ar dudalen bwrpasol ar wefan Small Business Britain.

Mae'r holl sesiynau'n cychwyn am 11yb ac mae'r modiwlau'n cynnwys:

  1. 21 Mawrth 2022: Sustainability is Good for Business
  2. 28 Mawrth 2022: Starting at the Beginning: Energy and Transport
  3. 4 Ebrill 2022: Where You Are & What You Do
  4. 25 Ebrill 2022: A Team Effort: Working With & Adapting Your Supply Chain
  5. 3 Mai 2022: Offsetting: The Good, The Bad & Making a Plan
  6. 9 Mai 2022: Sustainability for You

Am fwy o fanylion, ewch i Webinar Registration - Zoom
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.