BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Smart Manufacturing Data Hub yn cefnogi BBaChau Gweithgynhyrchu Cymru

Nod Smart Manufacturing Data Hub  (SMDH), dan arweiniad Prifysgol Ulster, yw cefnogi 10,000 o BBaChau gweithgynhyrchu'r DU i ddefnyddio, dysgu a gweithredu technoleg trawsnewid digidol yn eu ffatrïoedd trwy ystod o fentrau cymorth a mesurau ariannu. Cefnogir y rhaglen gan £50 miliwn o gyllid o dan y fenter Made Smarter gan Innovate UK.

Bydd y gefnogaeth i BBaChau yn cynnwys addysg a chyngor arbenigol ar lwybrau digideiddio, gweithredu technoleg sy'n cael ei gyrru gan ddata a chyllid i helpu BBaChau gweithgynhyrchu i gyrraedd eu nodau trawsnewid digidol.

Mae SMDH yn cynnig cyfleoedd unigryw i BBaChau gael mynediad at arbenigedd data a fydd yn anelu at arbed amser ac arian i BBaChau, rhagweld methiannau a diogelu'r amgylchedd, ymhlith buddion eraill.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol FAQ (smdh.uk)

Y Gronfa Arloesi Digidol

Mae SMDH yn darparu cyllid a chefnogaeth i BBaChau ar eu taith ddigideiddio, yn amrywio o BBaChau nad oes ganddynt systemau dal data i BBaChau sydd eisiau defnyddio prawf rhithwir i ddelweddu senario yn eu ffatri cyn iddynt ymrwymo i fuddsoddi.

Gall BBaChau cymwys fanteisio ar hyd at £315,000 o gyllid ar gyfer prosiectau ffatri ddigidol. Mae'r Gronfa Arloesi Digidol yn agor yn y dyfodol agos iawn; i gofrestru eich diddordeb a chael eich hysbysu pan fydd y gronfa'n agor, cliciwch ar y ddolen ganlynol Subscribe (smdh.uk)

A oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am fentrau SMDH? 

Os oes gan eich busnes ddiddordeb mewn clywed mwy am sut y gall SMDH eich helpu i ddigideiddio eich ffatri a manteisio ar Diwydiant 4.0, neu os ydych chi eisiau gwneud ymholiad ynghylch dechrau prosiect gyda SMDH neu os oes gennych ymholiad penodol, cofrestrwch eich diddordeb drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol Subscribe (smdh.uk)  a bydd cynrychiolydd Datblygu Busnes yn cysylltu â chi.

Bydd SMDH yn arddangos yn Wythnos Dechnoleg Cymru ar 16 ac 17 Hydref 2023 yng Nghasnewydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.