Bydd busnesau a gweithwyr, yn enwedig y rheiny yn yr economi gig, yn elwa ar fwy o eglurder ynghylch eu statws cyflogaeth, diolch i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU.
Mae gan bobl sydd â statws cyflogaeth gwahanol hawliau gwahanol wedi'u nodi’n gyfreithiol. Nod yr hawliau yw amddiffyn unigolion. Mae'r rhan fwyaf o'r hawliau yn orfodol, ac fel arfer does dim modd eu dileu.
Mae’r canllawiau manwl yn ategu canllawiau statws cyflogaeth GOV.UK, ac yn rhoi cyngor ac enghreifftiau ymarferol i weithwyr proffesiynol adnoddau dynol ar:
- statws cyflogaeth a sut mae'n pennu’r hawliau cyflogaeth y mae gan unigolion hawl iddynt ac y mae cyflogwyr yn gyfrifol amdanynt
- ffactorau sy'n pennu statws cyflogaeth unigolyn
- amgylchiadau arbennig a datblygiadau diweddar yn y farchnad lafur
- sut y dylid pennu statws cyflogaeth ar gyfer gwahanol sectorau
- ble i fynd am wybodaeth bellach
Mae 2 ganllaw ychwanegol ar gyfer:
- unigolion, i'w helpu i ddeall eu statws cyflogaeth fel eu bod yn gwybod eu hawliau, yn gallu cynnal trafodaethau gwybodus gyda'u cyflogwr amdanynt, a chymryd camau i'w hawlio a'u gorfodi lle bo angen
- cyflogwyr neu ymgysyltwyr, i'w helpu i ddeall statws cyflogaeth unigolion fel eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan helpu sicrhau bod unigolion yn cael yr hawliau y mae ganddynt hawl iddynt, ac osgoi anghydfodau diangen a chostau cysylltiedig