Mae Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn datblygu system fewnfudo ddigidol.
Drwy gydol 2024 mae UKVI yn disodli dogfennau mewnfudo ffisegol fel Trwyddedau Preswylio Biometrig (BRPau) a Chardiau Preswylio Biometrig (BRCau), a dogfennau papur hŷn, gyda chofnod ar-lein o statws mewnfudo o'r enw eFisa.
Gall unrhyw berson sydd â thrwydded preswylio biometrig (BRP) sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024 greu cyfrif UKVI a chael mynediad i'w eFisa, heb fod angen gwahoddiad gan UKVI i wneud hynny. Ewch i www.gov.uk/evisa am fwy o wybodaeth.
Mae'r Swyddfa Gartref yn eich gwahodd i un o'u digwyddiadau ymgysylltu i glywed sut mae Llywodraeth y DU yn parhau â’i throsglwyddiad i’r eFisa, a pha gamau y mae angen i bobl eu cymryd i greu cyfrif UKVI i gael mynediad i’w eFisa. Maent hefyd yn awyddus i archwilio sut y gall eich sefydliad helpu i roi gwybod i bobl beth sydd angen iddynt ei wneud.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu yn y digwyddiad hwn:
- Deall y llinell amser a’r camau y mae angen i bobl eu cymryd
- Archwilio manteision statws mewnfudo digidol
- Beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n gwneud cais am fisa nawr ac yn y dyfodol
- Gwiriadau Hawl i Weithio
- Deall pwysigrwydd sicrhau bod pobl yn cadw eu cyfrif UKVI yn gyfredol
- Darganfod ble i ddod o hyd i wybodaeth, help a chymorth
- Dysgu sut y gall eich sefydliad helpu i hwyluso'r trosglwyddiad hwn
Cofrestrwch i fynychu gan ddefnyddio'r dolenni isod. Dim ond un digwyddiad sydd angen i chi fynychu.