BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Storio, rhannu a diogelwch data – Perygl defnyddio BCC mewn negeseuon e-bost

Hand pushing virtual mail button on digital background

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer storio, rhannu a diogelwch data ar gyfer sefydliadau bach.

Meddyliwch yn ofalus ynghylch pryd i ddefnyddio BCC wrth anfon negeseuon e-bost i gyfeiriadau lluosog.

Methu defnyddio BCC yn gywir mewn negeseuon e-bost yw un o'r prif doriadau data a adroddir i'r ICO bob blwyddyn – a gall y toriadau hyn achosi niwed gwirioneddol, yn enwedig lle mae gwybodaeth bersonol sensitif dan sylw. 

Pan fyddwch yn defnyddio'r maes 'BCC' i anfon e-bost, ni all y derbynwyr weld cyfeiriadau e-bost ei gilydd. Gallwch ddefnyddio hwn os nad yw'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhannu yn sensitif ac nad oes llawer o risg. Ond os gall eich e-bost ddatgelu gwybodaeth sensitif am y derbynwyr, dylech asesu a fyddai defnyddio dulliau diogel eraill yn fwy priodol.

O dan y gyfraith diogelu data, rhaid i sefydliadau gael mesurau technegol a sefydliadol priodol ar waith i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel ac nad yw'n cael ei datgelu'n amhriodol i bobl eraill.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Data storage, sharing and security | ICO 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.