BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Strategaeth rheoli tybaco i Gymru

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn rhannau allweddol o gynllun newydd i gael Cymru ddi-fwg erbyn diwedd y ddegawd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y strategaeth hirdymor ar reoli tybaco, Cymru Ddi-fwg. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr 2022. Targed y strategaeth yw cael Cymru ddi-fwg erbyn 2030, sy’n golygu y bydd llai na 5% o’r boblogaeth yn smygu.

Gydag oddeutu 14% o bobl yng Nghymru’n smygu, mae cysylltiadau cryf rhwng smygu ac amddifadedd, gyda’r rheini mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o smygu. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod unigolion â salwch meddwl tua dwywaith yn fwy tebygol o smygu na phobl nad oes ganddynt gyflyrau iechyd meddwl.

Eleni, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno meysydd chwarae, tiroedd ysgol a thiroedd ysbytai di-fwg. Y flwyddyn nesaf (ar 1 Mawrth 2022) bydd ystafelloedd lle caniateir smygu mewn gwestai a thai llety yn cael eu gwahardd, ac ni fydd smygu’n cael ei ganiatáu mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol fel bythynnod, carafanau a lletyau AirBnB.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn barn pobl ynglŷn â sut i greu cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru yn ogystal â barn ar y camau gweithredu manwl a nodwyd yn y cynllun cyflawni dwy flynedd cyntaf.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 31 Ionawr 2022 Strategaeth rheoli tybaco i Gymru a’r cynllun cyflawni | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.