Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn ar gynigion i ddiwygio dyddiadau’r tymhorau ysgol. Bwriad hyn yw creu tymhorau sy’n fwy cyfartal o ran hyd, gyda’r gwyliau wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson, ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Rydym yn ymgynghori ar dri mater:
- Yr egwyddor o addasu’r flwyddyn ysgol
- Opsiynau ar gyfer gweithredu newidiadau i’r flwyddyn ysgol gan gynnwys gwneud newidiadau yn y flwyddyn ysgol 2025 i 2026
- Dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026
Mae’r ymgyghoriad yn cau 12 Chwefror 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni canlynol: