Ar gyfartaledd, mae 21,000 o bobl fedrus a phrofiadol yn gadael y lluoedd arfog bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt am ymuno â’r gweithlu sifil. A hwythau’n unigolion sydd wedi cael llawer o hyfforddiant ac sy’n meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys arweinyddiaeth, gwaith tîm a chyfathrebu, mae cyn-filwyr yn gyflogeion galluog ac ymroddedig.
Yn gymharol, nid yw cyn-filwyr wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y gweithlu ac mae cyn-filwyr oedran gweithio bron ddwywaith mor debygol o fod yn ddi-waith â sifiliaid.
Un o’r ffyrdd mwyaf arwyddocaol y mae busnes yn cyfrannu at fywoliaeth unigolion a chymunedau yw trwy greu cyflogaeth ystyrlon. Mae gan Fusnes yn y Gymuned ystod o adnoddau i helpu’ch busnes i ddatblygu gweithlu medrus a chynhwysol.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Ex-Military - Business in the Community (bitc.org.uk)