BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

SWEF – Grantiau Menter a Busnes

Young entrepreneur working on a laptop

Gan weithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru mae South West Enterprise Fund (SWEF) yn rhoi cyfle i ymuno â rhwydwaith o gymheiriaid sydd hefyd ar gamau cynnar dechrau eu busnes eu hunain er mwyn rhannu syniadau a profiadau ac er mwyn dysgu.

Maen nhw’n cynnig grantiau o hyd at £2,000 i entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru sydd rhwng 18 a 30 oed.

Gellir defnyddio grantiau ar gyfer:

  • offer a fydd yn helpu i sicrhau mwy o refeniw
  • offer a fydd yn helpu busnes i gynyddu cynhyrchiant lle gellir profi bod galw am y cynnyrch
  • deunyddiau/stoc ar gyfer math newydd o gynnyrch
  • prototeipiau (dim costau datblygu apiau)
  • creu gwefan/system archebu
  • hyfforddiant
  • datblygu cynnyrch

Mae'r gronfa yn cau am hanner dydd, dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: SWEF - grantiau menter a busnes - Sefydliad Cymunedol Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.