Gan weithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru mae South West Enterprise Fund (SWEF) yn rhoi cyfle i ymuno â rhwydwaith o gymheiriaid sydd hefyd ar gamau cynnar dechrau eu busnes eu hunain er mwyn rhannu syniadau a profiadau ac er mwyn dysgu.
Maen nhw’n cynnig grantiau o hyd at £2,000 i entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru sydd rhwng 18 a 30 oed.
Gellir defnyddio grantiau ar gyfer:
- offer a fydd yn helpu i sicrhau mwy o refeniw
- offer a fydd yn helpu busnes i gynyddu cynhyrchiant lle gellir profi bod galw am y cynnyrch
- deunyddiau/stoc ar gyfer math newydd o gynnyrch
- prototeipiau (dim costau datblygu apiau)
- creu gwefan/system archebu
- hyfforddiant
- datblygu cynnyrch
Mae'r gronfa yn cau am hanner dydd, dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: SWEF - grantiau menter a busnes - Sefydliad Cymunedol Cymru