Mae’r Blwch Tywod Rheoleiddiol yn wasanaeth am ddim a ddatblygwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i gefnogi sefydliadau sy’n creu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n defnyddio data personol mewn ffyrdd arloesol a diogel.
Os ydych chi’n rhan o sefydliad sy’n mynd i’r afael ag ystyriaethau cymhleth yn ymwneud â diogelu data wrth i chi greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd arloesol, mae tîm Blwch Tywod Rheoleiddiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth eisiau clywed gennych.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn derbyn datganiadau o ddiddordeb hyd at 31 Rhagfyr 2023 o fewn y meysydd ffocws presennol canlynol:
Bydd datganiadau o ddiddordeb yn cael eu hasesu yn seiliedig ar botensial y cynnyrch neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddatblygu i fod yn arloesol ac o fudd amlwg i’r cyhoedd. P’un a yw eich busnes yn un newydd, yn fusnes bach neu ganolig, neu’n sefydliad mwy o faint, boed yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol, bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dymuno clywed gennych.
Ceir rhagor o fanylion am y Blwch Tywod, ei fanteision, ei feini prawf cymhwysedd, a’r broses ymgeisio, yn the Guide to the Sandbox ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, neu gallwch anfon neges e-bost at y tîm yn sandbox@ico.org.uk