BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Syniadau arloesol i fynd i'r afael ag allyriadau amonia yng Nghymru

Cows in a field in Pembrokeshire

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £1 miliwn ar gael i gefnogi prosiectau newydd a all helpu i leihau allyriadau amonia, ac mae'r ffenestr ymgeisio yn agor heddiw (2 Tachwedd 2023).

Canolbwynt yr her Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) hon yw'r sector amaeth yng Nghymru.

Nod yr her yw helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i leihau effeithiau niweidiol y llygrydd ar y tir ac yn yr atmosffer.

Mae amonia atmosfferig yn brif lygrydd sy'n cael ei allyrru gan weithgareddau amaethyddol, gyda'r rhan fwyaf o'r amonia yn dod wrth i sgil-gynhyrchion anifeiliaid bydru'n naturiol.

Mae gan y diwydiant gwartheg, yn enwedig y sector llaeth, er enghraifft, lefelau uchel o allyriadau amonia y gellir eu priodoli i'r cylch cynhyrchu.

Mae SBRI yn cysylltu heriau gyda syniadau arloesol o'r diwydiant, gan alluogi sefydliadau i ddefnyddio technoleg a datrysiadau newydd i fynd i'r afael â phroblemau gan gefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu.

Bydd busnesau'n cael cyfle i lunio pecynnau tystiolaeth cadarn sy'n dangos sut y gall eu prosiectau leihau allyriadau amonia, a sut y maent yn cyd-fynd â rhestrau Ansawdd Aer y DU.

Cystadleuaeth yn cau: 5 Ionawr 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Syniadau arloesol i fynd i'r afael ag allyriadau amonia yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.