BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Syniadau Mawr Cymru Ar Daith!

Mae Syniadau Mawr Cymru ar daith!

Os ydych chi'n 25 neu'n iau ac yn wynebu rhwystrau sy'n eich atal rhag cychwyn busnes, yn chwilio am gyfle newydd, neu os oes gennych chi syniad busnes gwych, yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu.

Os oes gennych chi syniad busnes yn barod neu os ydych chi’n chwilfrydig am fyd hunangyflogaeth, yna mae’r digwyddiad hwn yn addas i chi. Mewn lleoliad yn lleol i chi, byddwch yn clywed gan berchnogion busnes sydd wedi profi llwyddiant yn y maes, yn cymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol am fod yn hunangyflogedig ac yn cael cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordebau tebyg. Byddwch yn gadael y digwyddiad hwn gyda gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i gychwyn eich busnes ac yn hyderus yn eich gallu i wneud hynny gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Digwyddiadur Busnes Cymru - Syniadau MAwr Cymru Ar Daith!, Digwyddiadau (business-events.org.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.