BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Syrcas fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn dod i Gymru yn 2023

Mae syrcas gyfoes fyd-enwog yn dod i Abertawe a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 2023, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf, dan arweiniad y syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol, NoFit State Circus, mewn partneriaeth â chwmnïau ac artistiaid syrcas blaenllaw, a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn Aberystwyth yn derbyn cyllid gan Digwyddiadau Cymru ar gyfer datblygu’r digwyddiadau.

Bydd NoFit State yn croesawu tua 200 o artistiaid syrcas y DU ar gyfer rhaglen o ddatblygiad proffesiynol cydweithredol yn Ne Cymru.

Gŵyl Crime Cymru Festival yw’r unig ŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yng Nghymru, sy’n rhoi sylw i sêr y byd ffuglen drosedd yng Nghymru ochr yn ochr â gwerthwyr gorau ac enwau cyfarwydd o’r DU a thramor.

Mae wedi cael ei chynnal yn ddigidol yn 2021 a 2022. Mae’r digwyddiad byw cyntaf wedi’i gynllunio ar gyfer 21 i 23 Ebrill 2023.

Aberystwyth, sydd eisoes yn adnabyddus fel cartref y gyfres deledu trosedd Y Gwyll/Hinterland, fydd cartref yr ŵyl, a’r nod yw sefydlu gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol o safon fyd-eang i Gymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn cefnogi awduron i ddatblygu talent ysgrifennu trosedd Gymreig newydd ac yn hyrwyddo bywyd artistig Cymreig yng Nghymru a thu hwnt.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Syrcas fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn dod i Gymru yn 2023 | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.