Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhyddhau rhagor o fanylion am system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau’r DU, a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2021.
Mae’r datganiad yn cynnwys gwybodaeth am:
- ofynion y system seiliedig ar bwyntiau
- trothwyon cyflogau a sgiliau ar gyfer gweithwyr medrus
- llwybr ar gyfer myfyrwyr a graddedigion
- pwy all ymgeisio
- ymweld â’r DU
- llwybrau mewnfudo eraill
Gall dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ymgeisio i ymgartrefu yn y DU drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion y DU nes 30 Mehefin 2021.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.