BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

System fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau a statws dinasyddion yr UE

Beth yw'r system seiliedig ar bwyntiau? Beth yw trothwy cyflog? Sut ydw i'n cael trwydded noddi? Beth sydd angen i mi ei wneud ar gyfer fy nghyflogwyr cenedlaethol yn yr UE?

Ar 1 Ionawr 2021 daeth symudiad rhydd i ben a chyflwynwyd system fewnfudo newydd yn y DU sy'n seiliedig ar bwyntiau. Mae'r system newydd yn trin dinasyddion yr UE a dinasyddion y tu allan i'r UE yn gyfartal ac wedi trawsnewid y modd mae pawb yn dod i weithio ac astudio yn y DU. Bydd angen i unrhyw un sy'n dod i'r DU i weithio neu astudio, ac eithrio dinasyddion Iwerddon, wneud cais am ganiatâd ymlaen llaw. 

Ymunwch â swyddogion Busnes Cymru a'r Swyddfa Gartref i gael cyflwyniad i'r system fewnfudo newydd sy'n seiliedig ar bwyntiau ac am drosolwg o statws dinasyddion yr UE.

Bydd y sesiwn hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Cyflwyniad i'r system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau 
  • Y fisa gweithiwr medrus
  • Sut i ddod yn noddwr y Swyddfa Gartref
  • Fisa Myfyrwyr
  • Talent byd-eang
  • Gweithwyr tymhorol
  • Pobl Hong Kong â statws Prydeinig (Tramor)
  • Fisa ymweliad
  • Gwiriadau hawl i weithio 
  • Y Cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE – gan gynnwys ceisiadau hwyr 
  • Pa gymorth sydd ar gael i mi? 
  • Sesiwn holi ac ateb gyda swyddogion polisi

Byddwn yn anfon dolen MS Teams ar yr wythnos sy'n dechrau 25 Hydref i fynychu'r digwyddiad hwn.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein hwn, defnyddiwch y ddolen isod:

Tocynnau ar gyfer digwyddiad System mewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau a statws dinasyddion yr UE, Mawrth 26 Hydref 2021 am 14:00 | Eventbrite

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.