Bob blwyddyn mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cynnal taith genedlaethol ar hyd a lled y DU.
Bydd y Daith yn dychwelyd eto fis Tachwedd eleni i dynnu sylw at, a chefnogi busnesau bach ledled y wlad a'u cymunedau ac i gyfri’r dyddiau yn swyddogol hyd Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 7 Rhagfyr 2024.
Bydd y Daith yn ymweld â thri ar hugain o wahanol drefi a dinasoedd, gan ymweld â busnesau bach, mynd y tu ôl i'r llenni a chwrdd â'r bobl sy'n eu rhedeg, er mwyn tynnu sylw at eu cyfraniad amhrisiadwy i gymunedau lleol ac economi ehangach y DU.
Bydd hefyd yn cynnig rhaglen ddyddiol llawn dop o hyfforddiant a mewnwelediad ar-lein - gan gynnwys gweminarau, mentora a straeon entrepreneuraidd ysbrydoledig - sy'n agored i bob busnes bach.
Bydd y Daith yn teithio dros 3,000 milltir ar draws y DU am bum wythnos mewn fan drydan i gyfyngu ar allyriadau ac adlewyrchu'r newidiadau cynaliadwy y mae llawer o berchnogion busnesau bach yn eu gwneud fel rhan o'u rôl hanfodol yn y ras i sero net.
Bydd y Daith yn ymweld ag Abertawe ar 20 Tachwedd 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!