BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Take Five i Atal Twyll

person using a laptop

Mae twyll yn fygythiad mawr i’r Deyrnas Unedig. Mae’r diwydiant cyllid wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r drosedd hon, ond mae hefyd yn drosedd sy’n golygu bod angen i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ymdrechu ar y cyd i’w goresgyn.

Mae Take Five yn ymgyrch genedlaethol sy’n cynnig cyngor i helpu pawb i’w diogelu eu hunain rhag twyll ariannol. Mae hyn yn cynnwys twyll trwy’r e-bost a sgamiau dros y ffôn, yn ogystal â thwyll ar-lein – yn enwedig lle mae troseddwyr yn ffugio bod yn sefydliadau dibynadwy.

Mae busnesau yn aml yn darged i droseddwyr gan fod mwy o arian yn eu cyfrifon nhw na chyfrif y defnyddiwr cyffredin, yn gyffredinol. Gall mentrau bach a chanolig wynebu mwy o risg na busnesau eraill oherwydd efallai bod ganddynt lai o fesurau amddiffynnol i ddarganfod twyll ac yn cael hyfforddiant llai rheolaidd ar y mater. 

Mae’r cwis yn helpu cyflogwyr a chyflogeion i herio sefyllfaoedd yn hyderus lle gallai troseddwyr fod yn targedu eu busnes. Ei nod yw rhoi’r wybodaeth a’r gallu i bobl allu adnabod beth yw galwadau, negeseuon testun, negeseuon e-bost twyllodrus a phostiadau twyllodrus ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Mae Take Five to Stop Fraud yn annog busnesau i wneud y cwis i helpu diogelu eu hunain rhag twyll a sgamiau a dilyn cyngor ymgyrch Take Five to Stop Fraud: 

  • Aros: Os byddwch yn derbyn cais i wneud taliad brys, newid manylion banc cyflenwr neu ddarparu gwybodaeth ariannol, cymerwch funud i aros a meddwl.
  • Her: A allai fod yn ffug? Gwiriwch daliadau a manylion y cyflenwr yn uniongyrchol gyda’r cwmni ar rif ffôn hysbys neu wyneb yn wyneb yn gyntaf.
  • Diogelu: Cysylltwch â banc eich busnes ar unwaith os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich sgamio, a rhoi gwybod am hyn i Action Fraud.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Small businesses struggling to spot scams | Take Five (takefive-stopfraud.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.