BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Tâl gwyliau ar gyfer cyflogeion - ydych chi’n gwybod eich rhwymedigaethau cyfreithiol?

Mae gwyliau blynyddol â thâl yn hawl gyfreithiol y mae’n rhaid i gyflogwr ei darparu. Mae gan bob gweithiwr hawl i gael amser i ffwrdd gyda thâl am bob awr maen nhw’n ei weithio, dim ots os ydyn nhw’n gweithio’n rhan amser, yn gweithio shifftiau neu’n gweithio oriau afreolaidd.

Pobl sy’n gweithio patrymau gwaith gwahanol, fel gweithwyr asiantaeth neu staff dros dro, yn ogystal â gweithwyr rhan amser neu’r rheini sy’n gweithio shifftiau sydd yn y perygl mwyaf o golli allan ar dâl.

I gael rhagor o wybodaeth am dâl gwyliau, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.