Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phrinder talent yn hanfodol i’r economi. Gall y boblogaeth ffoaduriaid fyd-eang fod yn rhan o'r ateb.
Mae ffoaduriaid yn ffynhonnell o dalent a sgiliau nad yw’n cael ei defnyddio, ond mae yna ddiffyg cyfleoedd iddyn nhw. Mae ffoaduriaid yn feddygon, peirianwyr, crefftwyr medrus, datblygwyr meddalwedd, a mwy. Ac eto mae llawer ohonynt yn eu canfod eu hunain mewn gwledydd lle nad oes ganddyn nhw’r hawl i weithio'n lleol ac mae nhw’n cael eu cau allan o systemau mudo ar sail sgiliau.
Mae Talent Beyond Boundaries, ynghyd â Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref, yn gyffrous i gyhoeddi ei bod yn ehangu'r Rhaglen Doniau sydd wedi'u Dadleoli i Gymru!
Mae Talent Beyond Boundaries yn sefydliad sy'n ymroddedig i gysylltu ffoaduriaid medrus â chyfleoedd cyflogaeth ledled y byd.
Ymunwch â ni am weminar ar-lein i drafod sut mae eu dull arloesol yn pontio bylchau mewn talent ac yn meithrin amrywiaeth yn y gweithlu a deall sut y bydd TBB yn cydweithio ag amrywiol ddiwydiannau yng Nghymru (gan gynnwys nyrsio, adeiladu, sgiliau cyfreithiol, sgiliau gwyrdd ac addysg) gan sicrhau bod lleoliadau sgiliau yn cael eu darparu lle bo angen.
Dysgwch am straeon llwyddiant, heriau a wynebir gan weithwyr proffesiynol sydd wedi'u dadleoli ac effaith symudedd talent byd-eang.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 4 Rhagfyr 2024, archebwch eich lle yma: Business Wales Events Finder - Talent Beyond Boundaries - Digwyddiad Lansio Ar-lein