Efallai byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu Cymorth ar gyfer Llog Morgais.
Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd yn eich ardal chi, ar gyfartaledd, wedi’i gofnodi fel, neu y rhagwelir i fod, yn sero gradd celsius neu’n llai am 7 diwrnod yn olynol.
Byddwch yn cael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.
Mae’r cynllun Taliad Tywydd Oer yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Mawrth 2024. Gwiriwch os allwch gael taliad yn eich ardal chi.
Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Taliad Tywydd Oer : Trosolwg - GOV.UK