BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Talu eich bil treth Hunanasesiad

Y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad yw 31 Ionawr 2022. Gall cwsmeriaid gwblhau eu ffurflenni treth ar-lein cyn y dyddiad cau ar adeg sy'n addas iddynt. 

Os na allwch chi fforddio talu eich bil diweddaraf
Gallwch chi greu cynllun talu i ledaenu cost eich bil Hunanasesiad diweddaraf os yw pob un o'r amodau canlynol yn berthnasol:

  • mae arnoch chi £30,000 neu lai
  • nid oes gennych chi unrhyw gynlluniau talu neu ddyledion eraill gyda CThEM
  • mae eich ffurflenni treth yn gyfredol
  • mae llai na 60 diwrnod ers y dyddiad cau ar gyfer talu

Gallwch chi ddewis faint i'w dalu ar unwaith a faint rydych chi am ei dalu bob mis. Bydd rhaid i chi dalu llog.

Am ragor o wybodaeth, ewch:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.