BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Talu TAW a ohiriwyd oherwydd coronafeirws (COVID-19)

Gwybodaeth am sut i wneud taliadau TAW a ohiriwyd rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020.

Gallwch: 

  • dalu’r TAW gohiriedig yn llawn ar 31 Mawrth 2021 neu cyn hynny
  • optio i mewn i’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW gohiriedig adeg lansio’r cynllun yn 2021
  • cysylltu â CThEM os oes angen rhagor o gymorth arnoch i dalu

Gwybodaeth am sut i dalu'ch TAW gohiriedig

Os ydych chi eisiau optio i mewn i’r cynllun talu newydd: Ni allwch optio i mewn eto. Bydd y broses optio i mewn ar-lein ar gael ddechrau 2021. Rhaid i chi optio i mewn eich hun; ni all eich asiant optio i mewn ar eich rhan. 

Yn hytrach na thalu’r swm llawn erbyn diwedd mis Mawrth 2021, gallwch wneud hyd at 11 o daliadau misol llai, yn ddi-log.

Rhaid talu pob rhandaliad erbyn diwedd mis Mawrth 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth am y system dalu optio i mewn, ewch i wefan GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.