Fel arfer, mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu’ch bil treth fel a ganlyn:
- 31 Ionawr – ar gyfer treth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (a elwir yn daliad mantoli) a’ch taliad ar gyfrif cyntaf
- 31 Gorffennaf – ar gyfer eich ail daliad ar gyfrif
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EM (CThEM) erbyn y dyddiad cau. Bydd llog yn cael ei godi arnoch, ac efallai y bydd angen i chi dalu cosb os yw’ch taliad yn hwyr.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Talu'ch bil treth Hunanasesiad: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)