BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Tariff Masnach y DU: atal tollau a chwotâu tariffau

Atal tollau a chwotâu tariffau dros dro ar gyfer mewnforio nwyddau i’r DU.

Diben atal tollau yw helpu busnesau’r DU a busnesau tiriogaethau dibynnol ar y Goron i barhau’n gystadleuol yn y farchnad fyd-eang. Maent yn gwneud hyn drwy atal tollau mewnforio ar nwyddau penodol, sef y rhai a ddefnyddir mewn cynhyrchu domestig fel arfer.

Nid yw’r trefniant atal hwn yn gymwys i dollau eraill a allai fod yn daladwy fel TAW neu’r doll gwrth-ddympio.

Mae atal tollau’n caniatáu i gyfansymiau diderfyn gael eu mewnforio i’r DU ar raddfa dariff is. Mae Cwotâu Tariffau Awtonomaidd (ATQs) yn caniatáu i gyfansymiau cyfyngedig gael eu mewnforio ar raddfa is.

Mae atal tollau a Chwotâu Tariffau Awtonomaidd yn fesurau dros dro a gall unrhyw fusnes yn y DU eu defnyddio pan fyddant mewn grym. Maent yn cael eu cymhwyso ar sail ‘Gwlad a Ffefrir Fwyaf’. Mae hyn yn golygu y gellir mewnforio nwyddau y mae’r ataliadau neu’r cwotâu hyn yn berthnasol iddynt i’r DU o unrhyw wlad neu diriogaeth ar raddfa dariff is benodedig.
Gallwch weld yr ataliadau tollau a’r cwotau presennol drwy ddefnyddio’r  Adnodd Gwirio Tariff Masnach.

Bydd ffenestr 2021 i wneud cais am atal toll yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.