BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Teithiau diwylliannol i nodi 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

Eleni, mae Cymru'n dathlu 10 mlynedd ers agor ei llwybr arfordirol 870 milltir yn swyddogol – y cyntaf o'i fath yn y byd. 

I nodi'r achlysur, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ymuno â Cadw – i ddod â chyfres o 20 o deithiau cerdded i chi ddarganfod treftadaeth Cymru ar hyd y llwybr eiconig.

Mae’r teithiau, sy’n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu, yn amlinellu'r llwybrau gorau i ddarganfod 16 o gestyll Cymru, yn ogystal â detholiad eang o fryngaerau, cylchoedd cerrig a siambrau claddu – bob un â map defnyddiol i'ch tywys ar hyd eich ffordd. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Llwybr Arfordir Cymru / Cadw
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.