Heddiw (25 Ionawr 2023), mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion.
Gwneir y cyhoeddiad wrth i'r ddirprwyaeth fusnes ddiweddaraf o Gymru deithio i Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar gyfer sioe fasnach feddygol fwyaf y Dwyrain Canol - Arab Health - ar y 28 Ionawr 2023. Bydd busnesau o sectorau amrywiol yn ymuno â’r busnesau Technoleg Feddygol sy’n chwilio am gyfleoedd yn yr hwb masnach byd-eang hwn.
Ym mis Mawrth bydd busnesau o Gymru yn ymweld â Dulyn i gyfarfod â darpar gleientiaid a phartneriaid newydd, fel rhan o gyfres o weithgareddau i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol yng nghyfnod Dydd Gŵyl Dewi. Iwerddon yw'r 4ydd cyrchfan fwyaf poblogaidd i allforion Cymru, ac mae'n cynnig cyfle gwych i fusnesau ar draws pob sector.
Hefyd, mae asiantaeth Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, Cymru Greadigol, yn arwain cenhadaeth i gefnogi busnesau yn y Game Developers Conference (GDC) 2023 yn San Francisco. Bydd busnesau eraill o Gymru yn ymuno â'r ddirprwyaeth yn GDC sy'n gobeithio datblygu eu hallforion yn ardal Bae San Francisco, sy'n rhan o California gyda GDP o dros hanner triliwn o Ddoleri.
O fis Ebrill ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn arwain saith taith fasnach newydd i bum gwlad ar draws tri chyfandir. Dewiswyd y marchnadoedd ac arddangosfeydd yn y rhaglen i adlewyrchu'r datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i fusnesau Cymru.
Gall ymweld â'r farchnad allforio ei hun fod yn elfen hanfodol o ennill a chynnal busnes, boed hynny'n ymweld ag arddangosfa neu rwydweithio â chwsmeriaid posibl ac mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd allforwyr Cymru i gofrestru i fod yn bresennol.
Bydd rhaglen lawn 2023/24 yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth wrth i Gynhadledd Archwilio Allforio Cymru ddychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 9 Mawrth a Gwesty'r Village, Glannau Dyfrdwy, ar 16 Mawrth 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gweinidog yr Economi yn datgelu rhaglen brysur o deithiau masnach rhyngwladol ar gyfer Gwanwyn 2023 | LLYW.CYMRU