Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithredu’n ofalus mewn perthynas â theithio rhyngwladol oherwydd y perygl o ddal y coronafeirws dramor a mewnforio ffurfiau newydd o’r feirws i’r DU.
Rydym wedi cynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod eu taith yn hanfodol, gan eu hannog i ystyried cymryd gwyliau yn y DU.
Wrth inni symud y tu hwnt i’r don Omicron o Covid-19, byddwn hefyd yn gweld mwy o gyfle i unigolion fynd yn ôl at wneud penderfyniadau yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain. Ar y sail honno, ac oherwydd y llwyddiant brechu a nodir uchod, ni fyddwn mwyach yn cynghori pobl mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylent deithio dramor.
Yn hytrach, rydym yn gofyn i bawb sy’n ystyried trefnu gwyliau dramor feddwl am eu hamgylchiadau personol a theuluol ac am ffyrdd o ddiogelu ei gilydd os byddant yn penderfynu teithio dramor eleni. Rydym yn annog pawb sy’n agored i niwed i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu eu hunain.
Os ydych yn bwriadu teithio dramor, cofiwch:
- Edrych ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i weld y gofynion mynediad penodol ar gyfer y wlad y byddwch yn teithio iddi – mae’r rhain yn cynnwys gofynion o ran brechlynnau a phrofion ar gyfer Covid-19.
- Gwirio’r gofynion penodol ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed yn y wlad y byddwch yn teithio iddi.
- Gwirio’r sefyllfa o ran y coronafeirws yn y wlad y byddwch yn teithio iddi cyn ichi fynd.
- Diogelu’ch hun tra byddwch i ffwrdd drwy ddilyn yr un mesurau â’r rhai sy’n helpu i’ch diogelu gartref.
- Gwirio a dilyn y gofynion mynediad ar gyfer dod yn ôl i’r DU – mae’r rhain i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Ar ôl dychwelyd, ystyried cymryd camau ychwanegol i’ch diogelu chi, eich ffrindiau a’ch teulu, gan gynnwys gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld ag anwyliaid agored i niwed; gadael bwlch rhwng ymweld a chymdeithasu ag eraill ac, os oes gennych symptomau’r coronafeirws, hunanynysu a gwneud prawf.
Serch hynny, oherwydd yr anawsterau ymarferol sylweddol a fyddai’n cael eu hachosi gan drefniadau gwahanol i’r rhai yn Lloegr yn y maes hwn – mae nifer sylweddol o deithwyr o Gymru yn defnyddio meysydd awyr a phorthladdoedd Lloegr – rydym, yn anfoddog, yn parhau i gadw cysondeb â’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ac y cytunodd y llywodraethau datganoledig eraill arnynt.
Yn sgil y newidiadau hyn, ni fydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn sy’n cyrraedd Cymru gymryd prawf ar neu cyn diwrnod dau ac ni fydd angen i deithwyr sydd heb eu brechu sy’n cyrraedd Cymru gymryd prawf diwrnod wyth na hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl cyrraedd.
O 4am ddydd Gwener 11 Chwefror 2022 ymlaen:
- Ni fydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn (wedi cael eu cwrs sylfaenol llawn) gymryd prawf cyn-ymadael ddeuddydd cyn teithio i’r DU. Yr unig ofyniad arnynt fydd llenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr.
- Dylai teithwyr sydd heb eu brechu neu deithwyr anghymwys lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr, gwneud prawf cyn-ymadael o fewn dau ddiwrnod i’r amser y maent i fod i ymadael, a gwneud prawf PCR ar ôl cyrraedd ar neu cyn diwrnod dau.
- Caiff unrhyw un o dan 18 mlwydd oed, ni waeth beth fo’i statws brechu, nawr ddod i’r DU heb brawf cyn-ymadael. Serch hynny, os byddwch yn teithio dramor gyda phlant byddem yn eich annog i wirio unrhyw ofynion gwahanol ar gyfer plant, gan gynnwys a oes angen iddynt fod wedi’u brechu’n llawn.
Darllenwch y datganiad llawn ar LLYW.Cymru