Bydd cymunedau ledled Cymru yn gallu enwebu eu hoff draddodiadau i’w cynnwys mewn cofrestr newydd o dreftadaeth ddiwylliannol yn y DU.
Gallai dathliadau tymhorol a gynhelir ar Ddydd Gŵyl Dewi, Sioe Frenhinol Cymru, Dydd Santes Dwynwen a’r traddodiad o gynnal Eisteddfodau - lle bo’r holl weithgareddau diwylliannol, gan gynnwys canu ac adrodd, yn cael eu cynnal yn y Gymraeg - hefyd gael eu cynnwys ar y gofrestr.
Disgwylir y bydd traddodiadau sy’n ganolog i’n diwylliant cenedlaethol, ein hunaniaeth a’n cymunedau - o’r Urdd i ganu’r delyn Gymreig a’r traddodiad barddonol Cerdd Dafod - hefyd yn cael eu henwebu i’w cynnwys ar y gofrestr swyddogol hon.
Bydd y traddodiadau Cymreig a ddewisir yn eistedd ochr yn ochr â thraddodiadau gwerthfawr o weddill y DU, fel canu pibgod a dawnsio Ucheldirol traddodiadol yn Yr Alban i rowlio caws a’r grefft o blethu basgedi.
Daw’r ymgynghoriad hwn wrth i Lywodraeth y DU gadarnhau ei bwriad i gymeradwyo Confensiwn UNESCO dros Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol 2003, sy’n anelu at ddiogelu crefftau, arferion a thraddodiadau a gydnabyddir fel bod yn rhan allweddol o fywyd cenedlaethol ac sy’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i gymunedau.
Gelwir yr arferion hyn yn ‘treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol’ neu ‘treftadaeth fyw’ ac maen nhw wedi’u hetifeddu gan ein hynafiaid ac yn cael eu trosglwyddo i’n disgynyddion.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Traddodiadau Cymreig i’w cydnabod yn ffurfiol wrth i’r DU ymuno â Chonfensiwn UNESCO - GOV.UK
Gall defnyddio'r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes. Ac mae Helo Blod yma i roi help llaw yn rhad ac am ddim Croeso i Helo Blod