BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Trawsnewid Gwasanaethau i Gleifion Allanol

Mae'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu i gleifion allanol yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o Drawsnewid i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu i gleifion mewn ffordd ddarbodus sy'n seiliedig ar werth ar gyfer model gofal iechyd cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae COVID wedi arwain at ôl-groniad sylweddol o ran adolygu atgyfeiriadau gofal eilaidd ac oherwydd na fydd y capasiti'n cyfateb i'r galw, ceisir ffyrdd arloesol o reoli cleifion yn wahanol er mwyn lleihau atgyfeiriadau diangen.

Mae COVID hefyd wedi bod yn sbardun ar gyfer mabwysiadu'r broses newid yn gyflymach gan arwain at ddefnyddio atebion digidol fel gweithio yn rhithwir a chysylltu â chleifion yn electronig. Mae angen sicrhau bod y cleifion cywir yn cael mynediad at wasanaethau gofal eilaidd gyda phwyslais ar gefnogi mwy o weithgarwch mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal â model gofal mwy hunangyfeiriedig. 

Er mwyn cefnogi'r trawsnewid hwn i ganolbwyntio mwy ar ofal sylfaenol a chymunedol yn ogystal â modelau gofal digidol, rydym yn chwilio am atebion arloesol i gefnogi tri maes allweddol:

  • Thema 1:  Rheoli cyflyrau sy'n gofyn am brofion lluosog naill ai i wneud penderfyniad i atgyfeirio/trin neu fel rhan o lwybr gwyliadwriaeth y clefyd. 
  • Thema 2:  Cyfathrebu yn ddigidol rhwng cleifion a chlinigwyr.
  • Thema 3:  Adolygu delweddau/samplau.

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth hon, ewch i: https://sdi.click/otcoms, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Mai 2021.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.