BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Trawsnewid trafnidiaeth gyda data lleoliad: gwneud cais am gontractau

Bydd y Comisiwn Geo-ofodol yn buddsoddi hyd at £2 miliwn mewn oddeutu 30 prosiect sy’n ymchwilio i ffyrdd o wella’r ffordd o integreiddio trafnidiaeth, capasiti, diogelwch a seilwaith.

Mae’r comisiwn yn bwyllgor arbenigol a sefydlwyd gan Swyddfa’r Cabinet i hyrwyddo’r defnydd gorau o ddata geo-ofodol – data am leoliad sydd â’r potensial i ddatgloi gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol mewn sawl maes.

Gallai data lleoliad helpu i greu cysylltiadau trafnidiaeth newydd, gwella logisteg trafnidiaeth a chynnal a chadw ffyrdd a chefnogi cerbydau annibynnol.

Mae’n rhaid i brosiectau nodi prif gwsmer o’r sector cyhoeddus neu berchennog her sydd â diddordeb yn y datrysiad.

Gallai meysydd gwaith cynnwys astudiaethau dichonoldeb yn y canlynol:

  • Integreiddio moddau trafnidiaeth
  • Gwella diogelwch
  • Gwella cadwyni cyflenwi a dosbarthu
  • Cynyddu capasiti
  • Mynd i’r afael â heriau seilwaith.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11am ar 4 Tachwedd 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.