Mae llwyddiant y peilot yn golygu y bydd y prosiect yn awr yn symud i'w ail gam.
Mae Trefi SMART Cymru wedi derbyn cyllid pellach ar ôl ei lwyddiannau yn ei flwyddyn gyntaf. Mae’r prosiect wedi’i anelu’n bennaf at addysgu a chefnogi gweithrediad amrywiol dechnolegau ‘SMART’. Gall y dechnoleg hon ddarparu data, sydd wedyn yn cael ei ddadansoddi i wella swyddogaeth busnes neu wasanaethau cyhoeddus. Ymgysylltodd naw deg o drefi ledled Cymru â’r rhaglen dros y flwyddyn cyntaf, gan gynnwys 49 o weithdai ar ‘Ddod yn Dref SMART’.
Yn ogystal, mae’r prosiect wedi comisiynu cynlluniau digidol i’w creu ar gyfer 10 tref yn ogystal ag awdit data, i ddeall pa ddata sydd ar gael, a sut y gellir ei ddefnyddio. Bydd y ddau ddogfen yn cael eu rhyddhau i'r cyhoedd yn ystod yr wythnosau nesaf.
I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn dref SMART ewch i: https://www.smarttowns.cymru/cy/hafan, neu ewch i’r sianel YouTube Trefi SMART Towns Cymru - YouTube