Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Gweithredwch nawr i fod yn barod ar gyfer y rheolau newydd o fis Ionawr 2021.
Mae’r camau y gallwch eu cymryd nawr, nad ydyn nhw’n dibynnu ar unrhyw drafodaethau, yn cynnwys:
- teithio i’r UE – bwrwch olwg ar beth sydd angen i chi ei wneud i deithio i Ewrop o 2021
- aros yn y DU os ydych chi’n ddinesydd o’r UE – edrychwch i weld beth sydd ei angen arnoch chi i aros yn y DU
- parhau i fyw a gweithio yn yr UE - edrychwch i weld beth sy'n rhaid i chi ei wneud yn y wlad rydych chi'n byw ynddi
- busnesau sy’n mewnforio ac allforio nwyddau – o 1 Ionawr 2021 bydd angen i chi wneud datganiadau tollau i symud nwyddau i mewn ac allan o’r UE, dylech gael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) os nad oes gennych chi un eisoes a rhaid penderfynu sut rydych chi am wneud datganiadau tollau ac a oes angen i chi gael rhywun i ddelio â thollau ar eich rhan
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.