BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Treth Deunydd Pacio Plastig

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych chi wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 neu ragor o dunelli o gydrannau pecynnau plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf, neu os byddwch chi’n gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mawrth 2023, bydd y trothwy 12 mis yn cael ei gyfrifo’n wahanol,
Dim ond gwneuthurwyr a mewnforwyr cydrannau pecynnau plastig sy’n cynnwys llai na 30% o blastig wedi’i ailgylchu fydd yn gorfod talu’r dreth.

Dylai pecynnau gynnwys plastig wedi’i ailgylchu dim ond lle y’i caniateir o dan reoliadau eraill a safonau diogelwch bwyd

Bydd y dreth yn dod i rym ar 1 Ebrill 2022 a chodir tâl ar gyfradd o £200 fesul tunnell.

Gallai’r canllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y casgliad gael eu newid tan y cymeradwyir yr holl ddeddfwriaeth gan Senedd San Steffan. Byddant yn parhau i gael eu diweddaru. 

Cynnwys

  1. Paratoi ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  2. Pennu a yw’r deunydd pacio rydych yn ei weithgynhyrchu neu’n ei fewnforio yn agored i’r dreth
  3. Pwy ddylai gofrestru ar gyfer y dreth a phryd
  4. Sut i gofrestru
  5. Beth i’w wneud ar ôl i chi gofrestru
  6. Deddfwriaeth, polisi ac ymgyngoriadau
  7. Help a chymorth pellach

Cynnwys perthnasol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.