Os yw eich busnes yn cynhyrchu neu'n mewnforio pecynnau plastig, gall fod yn amser cofrestru ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig (PPT) newydd.
Rhaid i fusnesau o unrhyw faint a math gofrestru ar gyfer PPT ar GOV.UK os ydyn nhw'n disgwyl cynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell neu fwy o becynnau plastig yn y 30 diwrnod nesaf, neu os ydynt wedi cynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell neu fwy o becynnu plastig ers 1 Ebrill 2022.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, edrychwch ar yr ystod o adnoddau mae CThEM wedi'u datblygu i gynorthwyo busnesau gyda PPT.
Ewch i'r dudalen collection ar gyfer yr arweiniad diweddaraf, gan gynnwys:
- help ar gyfer gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr i benderfynu a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer PPT
- Manylion am beth i'w gynnwys wrth lenwi ffurflen PPT
- enghreifftiau o becynnau y tu mewn a thu allan i gwmpas PPT
Canllawiau cam wrth gam:
- Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru ac yn atebol am PPT
- Gwiriwch a yw’ch pecynnau plastig o fewn cwmpas y PPT