BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Treth Pecynnau Plastig - gwiriwch a oes angen i chi gofrestru

Cyflwynwyd Treth Pecynnau Plastig ar 1 Ebrill 2022. Os ydych chi'n gweithgynhyrchu neu'n mewnforio 10 neu fwy o dunelli o becynnau plastig o fewn cyfnod o 12 mis, rhaid i chi gofrestru ar gyfer Treth Pecynnau Plastig ar GOV.UK, hyd yn oed os yw eich pecynnau’n cynnwys 30% neu fwy o blastig wedi'i ailgylchu.

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Treth Pecynnau Plastig os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n disgwyl gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 neu fwy o dunelli yn y 30 diwrnod nesaf (y prawf 'edrych ymlaen') 
  • rydych wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 neu fwy o dunelli o becynnau plastig ers 1 Ebrill 2022 (y prawf 'yn edrych yn ôl')

Lle bo'n bosibl, mae CThEF yn annog busnesau sy'n agored i Dreth Pecynnau Plastig ddarparu gwybodaeth am y dreth sy'n cael ei thalu ar anfonebau i gwsmeriaid busnes.     

Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cael ei gyflwyno fel gofyniad cyfreithiol.  

Edrychwch ar y canllaw diweddaredig i gael gwybodaeth fanylach, sydd hefyd yn darparu enghreifftiau o ffyrdd eraill i wneud y dreth yn weladwy i gwsmeriaid busnes.

I gael cymorth ychwanegol, edrychwch ar yr ystod o adnoddau y mae CThEF wedi'u cynhyrchu i gynorthwyo busnesau gyda Y Dreth Deunydd Pacio Plastig - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.