BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Treuliau os ydych chi’n hunangyflogedig

woman using a laptop

Os ydych chi’n hunangyflogedig, bydd amrywiaeth o gostau rhedeg ynghlwm wrth eich busnes. Gallwch ddidynnu rhai o’r costau hyn wrth gyfrifo eich elw trethadwy, cyn belled â’u bod yn dreuliau a ganiateir.

Nid yw treuliau a ganiateir yn cynnwys arian a gymerwyd o’ch busnes i dalu am bryniannau preifat.

Os ydych chi’n rhedeg eich cwmni cyfyngedig eich hun (run your own limited company), mae angen i chi ddilyn rheolau gwahanol. Gallwch ddidynnu unrhyw gostau busnes o’ch elw cyn treth. Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw eitem at eich defnydd personol fel budd cwmni (company benefit).

Costau y gallwch eu hawlio fel treuliau a ganiateir

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • costau swyddfa (office costs), er enghraifft, deunyddiau swyddfa neu filiau ffôn
  • costau teithio (travel costs), er enghraifft, tanwydd, parcio, tocynnau trên neu fws
  • costau dillad (clothing expenses), er enghraifft, gwisgoedd pwrpasol
  • costau staff (staff costs), er enghraifft, cyflogau neu gostau is-gontractwyr
  • pethau rydych chi’n eu prynu i’w gwerthu ymlaen (things you buy to sell on), er enghraifft, stoc neu ddeunyddiau crai
  • costau ariannol (financial costs), er enghraifft, taliadau yswiriant neu ffioedd banc
  • costau eich safle/safleoedd busnes (costs of your business premises), er enghraifft, gwresogi, goleuo, ardrethi busnes
  • costau hysbysebu neu farchnata (advertising or marketing), er enghraifft, costau gwefan
  • cyrsiau hyfforddiant (training courses) yn ymwneud â’ch busnes, er enghraifft, cyrsiau diweddaru

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Expenses if you’re self-employed: Overview - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.