BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Tri mis i fynd: Bydd y newid i 20mya yn achub bywydau ac yn cryfhau cymunedau, meddai’r Dirprwy Weinidog

Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym.

Bydd y rhan fwyaf o strydoedd yng Nghymru sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi 2023 a disgrifiwyd y newid hwnnw fel y newid mwyaf i fesurau diogelu cymunedol mewn cenhedlaeth.

Daw’r newid ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i baratoi’r gyfraith newydd, gan wneud Cymru’r wlad gyntaf yn y DU i newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd lleol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Tri mis i fynd: Bydd y newid i 20mya yn achub bywydau ac yn cryfhau cymunedau, meddai’r Dirprwy Weinidog | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.