BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Troed ar y sbardun i drefnu’ch MOT yn ystod yr haf

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn annog modurwyr y mae eu MOT yn dod i ben yn ystod yr hydref i drefnu MOT ar eu cerbydau cyn gynted â phosib cyn y rhuthr disgwyliedig am brofion.

Cafodd ceir, beiciau modur a faniau ysgafn gyda’u MOT yn dod i ben rhwng 30 Mawrth a 31 Gorffennaf 2020 estyniad o 6 mis i helpu i gadw modurwyr ar y lôn yn ystod y pandemig coronafeirws.

Ni fydd ceir yr oedd eu MOT yn dod i ben o 1 Awst 2020 yn cael estyniad a byddant angen cynnal eu profion fel arfer.

Mae gwahanol reolau ar gyfer MOT ar gyfer HGV, bysiau a threlars.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK .


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.