BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW

O 1 Tachwedd 2022, ni fyddwch yn gallu defnyddio’ch cyfrif ar-lein TAW presennol i anfon Ffurflenni TAW.

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (MTD) (yn Saesneg) a defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw’ch cofnodion TAW a chyflwyno’ch Ffurflenni TAW.

Cyn i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, bydd angen naill ai:

  • pecyn meddalwedd sy’n cydweddu sy’n eich galluogi i gadw cofnodion digidol (yn Saesneg) a chyflwyno Ffurflenni TAW
  • meddalwedd bontio er mwyn cysylltu meddalwedd sydd ddim yn cydweddu (megis taenlenni) â systemau CThEF

Os oes gennych asiant neu gyfrifydd, siaradwch ag ef am ba feddalwedd sydd ei hangen arnoch.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.gov.uk/guidance/find-software-thats-compatible-with-making-tax-digital-for-vat.cy 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.