Mae busnesau yn cael eu hatgoffa i gymryd camau i baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Ar Werth (TAW) cyn y bydd yn orfodol i bob busnes sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW o 1 Ebrill eleni.
Nod Troi Treth yn Ddigidol yw helpu busnesau i ddileu gwallau cyffredin ac arbed amser wrth roi trefn ar eu materion treth.
Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW yn rhan o waith digideiddio cyffredinol Treth y DU.
I gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, mae angen i fusnesau, neu asiant ar ran busnes, wneud y canlynol:
- mynd i https://www.gov.uk/guidance/find-software-thats-compatible-with-making-tax-digital-for-vat.cy
- cadw cofnodion digidol gan gychwyn ar 1 Ebrill 2022 neu gychwyn eu cyfnod TAW
- cofrestru a chyflwyno eu Ffurflen TAW drwy’r system Troi Treth yn Ddigidol
Os nad yw busnesau wedi cofrestru gyda’r system Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW eto, dylent wneud hynny nawr er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y dyddiad cau sef Ebrill 2022.
Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK