Mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar gytundebau pontio i alluogi i ddata personol lifo’n rhwydd o’r UE i’r DU fel rhan o gytundeb masnach Brexit. O dan y trefniadau, bydd busnesau a chyrff cyhoeddus yn y DU yn parhau i dderbyn data yn rhwydd o’r UE am gyfnod o hyd at chwe mis hyd y bydd penderfyniadau digonolrwydd wedi cael eu mabwysiadu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.