Mae gan fusnesau ran enfawr i'w chwarae i helpu Cymru gyrraedd ei tharged o gyrraedd carbon sero net cyn 2050.
Gall cwmnïau ddefnyddio llai o ynni, newid i ffynonellau pŵer glanach a gweithio'n fwy cynaliadwy. Yn ogystal â hyn, gallant greu cynhyrchion a gwasanaethau i fynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd.
Bydd Digwyddiad Brecwast Insider yn dod â busnesau at ei gilydd i rannu mewnwelediadau i gyrraedd sero net yn gynt ac yn edrych ar gamau ymarferol, syniadau newydd i hybu cynaliadwyedd a sut y gall busnesau weithio gyda phartneriaid, cyflenwyr a chwsmeriaid tuag at sero net.
Cynhelir y digwyddiad am 8:30am ar 28 Mehefin yng Ngwesty'r Marriott, Caerdydd.
I drefnu lle am ddim, ewch i Towards Net Zero: An Insider Breakfast 2022 (insidermedia.com)