Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau am yr her o reoli twristiaeth gynaliadwy.
Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru’n enghreifftiau sy’n bwysig yn rhyngwladol o’r modd y gellir gwarchod tirluniau gweithiol. Mae cysyniad tirwedd warchodedig – ardal warchodedig y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwys cynyddol o ran cadwraeth fyd-eang.
Fodd bynnag, gwyddom fod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a gwyddom ei fod yn cael ei achosi gan ein gweithredoedd ni. Un ffordd bwysig o leihau ein heffaith ar yr hinsawdd a lleddfu’r pwysau ar leoedd, pobl a bywyd gwyllt bregus y byd yw trwy Dwristiaeth Gynaliadwy.
Nid yw hyn yn golygu atal twristiaeth. Yn hytrach, mae’n golygu cyflawni twristiaeth mewn ffyrdd sy’n gwarchod ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol gymaint â phosibl.
Fel busnesau sy’n gweithio o fewn ac o amgylch y Parciau Cenedlaethol, mae’n bwysig bod eich llais chi wrth graidd ein hymchwil. Mae arnom eisiau clywed gennych chi i gael gwybod sut y mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol:
- yn gweithio i gefnogi twristiaeth gynaliadwy;
- yn ymgysylltu â chi ac yn eich cynnwys yn eu gwaith ar dwristiaeth gynaliadwy; ac
- yn eich cynorthwyo chi i ddod yn fwy cynaliadwy.
Dylai’r arolwg gymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, cyflwynwch eich ymateb erbyn 20 Rhagfyr 2021 os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni trwy anfon neges e-bost at Astudiaethau.Cyngor@archwilio.cymru