BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Tyfu eich gwerthiant rhyngwladol gydag Academi Allforio'r DU

Mae Academi Allforio'r DU, sy’n cael ei darparu gan yr Adran Masnach Ryngwladol, yn rhaglen hyfforddi am ddim a gyflwynir trwy ddulliau hybrid dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae Academi Allforio'r DU ar agor i unrhyw fusnes yn y DU sydd â chynnyrch neu wasanaeth y gellir ei werthu’n rhyngwladol. Mae'n addas i fusnesau sy'n gwybod eu bod nhw eisiau cyrraedd cwsmeriaid a chontractau rhyngwladol yn y dyfodol, yn ogystal â'r rheiny a allai fod eisoes yn gwerthu y tu hwnt i'r DU ac sydd eisiau ehangu i farchnadoedd newydd.

O sesiynau rhagarweiniol i weithdai sector penodol, mae gan Academi Allforio'r DU oriau o gynnwys ar gael ar gyfer pob BBaCh ledled y DU. Yr unig beth sy'n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru a chreu eich cyfrif personol. Yna gallwch ddewis eich hoff gynnwys. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Home - UK Export Academy (great.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.