BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

UKRI: galwad agored am syniadau ymchwil ac arloesedd i fynd i’r afael â Covid-19

Bydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn cynorthwyo cynigion campus sy’n para hyd at 18 mis a fydd yn bodloni o leiaf un o’r canlynol:

  • cynnig ymchwil neu arloesedd newydd gyda llwybr effaith clir sydd â’r potensial (o fewn cyfnod y dyfarniad) i wneud cyfraniad sylweddol at ddeall ac ymateb i’r pandemig Covid-19 a’i effeithiau
  • cynnig sy’n cynorthwyo’r gwaith o weithgynhyrchu a/neu fabwysiadu’n ehangach ymyrraeth sydd â photensial sylweddol
  • cynnig sy’n casglu data ac adnoddau hollbwysig yn gyflym ar gyfer eu  defnyddio mewn ymchwil yn y dyfodol.

Derbynnir cynigion gan unrhyw un sy’n gymwys fel arfer i wneud cais am gyllid gan UKRI. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gwmni neu BBaCh a fyddai’n gymwys fel arfer am gymorth grant Innovate UK. Bydd angen i chi ddangos y byddwch chi’n gallu dechrau ar y gwaith o fewn 4 wythnos i gadarnhau’r cyllid.

Cynigion gyda photensial i sicrhau effaith uniongyrchol ar iechyd y cyhoedd am y deuddeg mis nesaf, ac sydd heb eu cyflwyno eisoes fel rhan o alwadau cynharach gan y Fenter hon.

Nid oes dyddiad cau penodol – gellir cyflwyno cynigion unrhyw adeg hyd at 1 Ebrill 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan KTN.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.