Mae MADE Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim i hysbysu, ennyn diddordeb ac ysbrydoli busnesau.
Bydd yr Uwchgynhadledd Diwydiant, a gynhelir rhwng 21 a 23 Mehefin 2022, yn trafod sut y gall busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru droi heriau ôl-Covid yn gyfleoedd drwy gydweithio â'r byd academaidd. Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei hagor gan Julie James, AS, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn traddodi'r brif araith o'r enw ' Beth yw rôl diwydiant Cymru o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd? A sut y gall bod yn gynaliadwy fod yn dda i fusnes?'
Mae'r holl ddigwyddiadau'n cael eu harwain gan siaradwyr allweddol yn y diwydiant ac maent yn rhad ac am ddim i'w mynychu.
Mae'r digwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn Y Drindod Dewi Sant, Abertawe ac AMRC Cymru, Sir y Fflint.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Mehefin 21-23, 2022, Cynhadledd Diwydiant MADE Cymru | MADE Cymru