Prosiect dwy flynedd a ariennir gan yr UE ac sy'n cefnogi menywod sy'n arwain cwmnïau newydd o Ewrop ym maes technoleg ddofn yw Women TechEU. Bydd busnesau newydd sy'n ymgeisio yn cael eu gwerthuso’n fanwl a bydd cyfanswm o 160 o fusnesau newydd llwyddiannus yn derbyn €75,000 mewn grantiau nad ydynt yn rhai gwanhaol, yn ogystal â rhaglen datblygu busnes wedi'i phersonoli sy’n cynnwys mentora a hyfforddiant.
Mae’r alwad gyntaf am geisiadau bellach ar agor a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 20 Mai 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Upcoming Calls and Programme Plan – Women TechEU (womentecheurope.eu)