BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Womenspire 2023 – Gwobrau Chwarae Teg


Gofynnir i bobl Cymru enwebu’r menywod mwyaf rhyfeddol yn eu bywydau, wrth i Wobrau Womenspire Chwarae Teg ddod yn fwy ac yn well fyth ar gyfer 2023! 

Mae’r elusen cydraddoldeb rhywedd wedi agor enwebiadau ar gyfer ei dathliad blynyddol, sy’n cydnabod cyflawniadau a chyfraniadau menywod eithriadol o bob cefndir. 

Mae gan Wobrau Womenspire Chwarae Teg 2023 naw categori sy’n agored i fenywod, fel y ganlyn:  

  • Hyrwyddwr Cymunedol 
  • Menyw mewn Chwaraeon
  • Seren Ddisglair
  • Dysgwr 
  • Entrepreneur 
  • Arweinydd
  • Menyw mewn STEM
  • Menyw mewn Iechyd a Gofal
  • Gwobr Cysylltydd Cymunedol – i gydnabod menyw sydd ag anabledd dysgu

Bydd Gwobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd hefyd, noddir gan Academi Wales – sy’n agored i unigolyn o unrhyw rywedd – i gydnabod eu hagwedd ragweithiol at gau’r bwlch rhwng y rhyweddau yn eu gweithle.  
Mae’r enwebiadau’n cau am hanner nos ar 31 Mai 2023. 

I enwebu rhywun ar gyfer Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2023, neu am ragor o wybodaeth, ewch i www.chwaraeteg.com/womenspire
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.